Bydd Ensemble Cymru a Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn dod ynghyd i ddathlu Diwrnod Cerddoriaeth Siambr Cenedlaethol cyntaf Cymru.
Mae’n rhad ac am ddim a bydd gwledd o gerddoriaeth siambr fyw a pherfformiadau gan brif ensemble cerddoriaeth siambr Cymru, Ensemble Cymru, cerddorion ifanc o Ganolfan Gerdd William Mathiasa chanwr o gwmni Opera Cenedlaethol Cymru. Bydd gwybodaeth hefyd am ddigwyddiadau cerddoriaeth glasurol sy’n digwydd ledled Cymru. Dyma gyfle gwych i fwynhau cerddoriaeth fyw ac i ddarganfod beth sy’n digwydd yn eich ardal chi.
Dim tâl mynediad, dim angen ticed.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’r gwefannau canlynol –
Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru NWIMF.com
Ensemble Cymru Ensemble.Cymru